Cymraeg | English

 


YMDDIRIEDOLAETH KYFFIN WILLIAMS

Nod cyntaf yr Ymddiredolaeth pan sefydlwyd hi yn 2007 oedd adeiladu Oriel i goffáu Kyffin Williams ym Môn, ei fam-ynys. Drwy haelioni Syr Kyffin ei hun, ewyllys da Cyngor Sir Ynys Môn, cymorth difesur aelodau o staff yr uned Addysg ac Addysg Gydol-oes, a chyda chefnogaeth nifer o gyrff cyhoeddus a channoedd o unigolion a gyfrannodd mor hael, adeiladwyd Oriel Kyffin Williams yn rhan o Oriel Ynys Môn yn Llangefni. Agorwyd yr oriel ysblennydd hon yn 2008, a chynhelir ynddi rhaglen gyfoethog o arddangosfeydd o weithiau Kyffin Williams ac eraill.

Y mae gan yr Ymddiriedolaeth ddau nod arall hefyd, sef addysgu’r cyhoedd, yr ifanc yn enwedig, am arlunwaith, a rhoi cyfleoedd i artistiaid eraill i’w mynegi’u hunain ac arddangos eu gweithiau.

Bob blwyddyn er 2009 trefnir Darlith Goffa Kyffin Williams, yn Gymraeg a Saesneg ar yn ail. Hyd yn hyn cafwyd darlithoedd gan Yr Athro Tony Jones, Yr Athro Prys Morgan a Ms Jan Morris. Traddodir y ddarlith nesaf gan Mr David W. Meredith ar yr 11eg o Fai 2012.

Bob tair blynedd trefnir Cystadleuaeth Arlunio Kyffin Williams ar gyfer artistiaid sy’n trigo yng Nghymru neu sydd â chyslltiad â hi. Rhoddir tair gwobr, gwobr gyntaf o £3000 ac ail wobr o £2000 yn y Gystadleuaeth Agored, a gwobr o £1000 i Arlunwyr Ifainc o dan 28 oed. Yr enillwyr yn 2009 oedd Louisa Theunissen a Hedd ap Hywel. Dyddiad cau’r gystadleuaeth eleni yw’r 16eg o Fai. (Os mynn neb fanylion amdani cysyllted â Nicola Gibson, Oriel Ynys Môn.)

YR YMDDIRIEDOLWYR

Mrs Anwen Carey Evans
Yr Athro Colyn Gardner
Mr Alun Gruffydd
Dr Paul Joyner
Mr David W. Meredith
Yr Athro Derec Llwyd Morgan (Cadeirydd / Chairman)
Yr Arglwydd Wigley o Gaernarfon
Mrs Mary Yapp