| Cymraeg | English |
Siop Jac Do
Ceir yma lu o nwyddau fel llyfrau, tegannau, cardiau cyfarch, anrhegion ac addurniadau arbennig a chyffrous. Mae Jac Do hefyd yn gartref i waith crefft newydd a dyfeisgar gan rai o’r crefftwyr gorau o’n cwmpas.
Felly os am anrheg arbennig i ffrind neu hyd yn oed rhywbeth bach neis i chi’ch hunain mae’n hanfodol i chi ymweld â ni yn Jac Do.
Cyhoeddiadau - cliciwch yma
Y Nyth
Lansiwyd Y Nyth yn 2008 fel man i arddangos a phrynu detholiad o waith celf gwreiddiol.
Mae Oriel Ynys Môn yn cynnig y Cynllun Casglu Principality. Mae hwn yn wasanaeth credyd di-log sydd yn rhoi cymorth i unigolion i brynu celf a chrefft cyfoes. Mae’r Cynllun ar gael ar gyfer yr arddangosfeydd yn yr Oriel Gelf a gweithiau sydd ar werth yn Y Nyth.