| Cymraeg | English |
Oriel Ynys Môn
Fel amgueddfa ac oriel gelf, mae gan Oriel Ynys Môn lawer iawn i’w gynnig.
Mae gan Oriel Kyffin Williams raglen ddeinamig a newidiadol o arddangosfeydd yn cwmpasu gwaith yr artist. Mae’r arddangosfeydd yn amrywio o gasgliadau creiddiol Oriel Ynys Môn i gasgliadau a fenthycwyd gan sefydliadau ac unigolion.
Gall ymwelwyr sydd yn awyddus i ddysgu am ddiwylliant a hanes yr ynys fwynhau’r Oriel Hanes sy’n rhoi cyflwyniad i orffennol yr ynys trwy sain, delweddau, ad-gynhyrchiadau a chreiriau gwir.
Mae un rhan o’r Oriel Hanes wedi ei neilltuo i waith un o arlunwyr bywyd gwyllt enwocaf yr Ugeinfed Ganrif, Charles F. Tunnicliffe. Mae’r casgliad unigryw yma o luniau yn cofnodi cyfoeth bywyd gwyllt Môn.
Yn ein Oriel Gelf, cynhelir hyd at wyth arddangosfa’n flynyddol. Mae’r oriel gelf yn gyfle i artistiaid, cerflunwyr, crefftwyr a pherfformwyr i gyflwyno’u gwaith gan hyrwyddo celfyddyd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Trwy gydol y flwyddyn byddwn yn cynnal gweithgareddau unigol- gweithdai i blant a theuluoedd ac ambell i sgyrsiau arbennig.
Felly, beth bynnag fydd pwrpas eich ymweliad, estynnwn groeso cynnes i chi.