Artistiaid |
Mae gan Oriel Ynys Môn raglen ddeinamig a newidiadol o arddangosfeydd.
Cyflwyniad | Arddangosfeydd Celf| Arddangosfeydd Hanes | Ystafell Tunnicliffe | Siop Jac Do | Caffi Blas Mwy | Cyfeillion | Digwyddiadau | Rhaglen 2011 | Hanes Oriel Ynys Môn | Llyfr Gwesteion |
Ionawr 15 – Chwefror 27
![]() |
Prif gorff yr arddangosfa hon yw myfyrdod ac obsesiwn yr artist gyda môr Iwerddon – yn ffigyrol ac anffigurol. Yn ogystal gwelir cyfuniad o fannau penodol o Ynys Môn sydd ynghlwm a phlentyndod yr artist. Hefyd, yn yr
arddangosfa, gwelir cyfres o baentiadau o fynydd Arenig Fawr, ger y Bala. Mae hyn yn deillio o gyfraniad yr artist i raglen ddogfennol ar BBC4 ar ymweliad Augustus John a John. P. Innes ar Arenig Fawr ganrif yn ôl.
Mawrth 5 – Ebrill 10
![]() |
Yn yr arddangosfa hon o weithiau newydd gan Brendan Stuart Burns fe geir paentiadau haniaethol cryf a ysbrydolwyd gan y tirlun trefol a gwledig. Brendan yw un o artistiaid mwyaf cyffrous a heriol Cymru - mae wedi ennill Medal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol mewn Celfyddyd Gain ddwywaith ac Arlunydd y Flwyddyn Cymru yn 2000 a 2003.
Plu – Alffabet yr Adar
Ebrill 16 – Mehefin 5
![]() |
Mae Colin See-Paynton yn cael ei gyfrif fel un o’r prif gerfwyr coed yn y DU, ac mae’r arddangosfa hon yn dangos nifer fawr o engrafiadau newydd mewn coed. Mae pob un o’r engrafiadau yn yr arddangosfa wedi’u gwneud tros gyfnod o 4 blynedd ac mae’n mynd a ni trwy’r alffabet o ‘Abandonment’ o Gogau i ‘Gagl’ o Wyddau, ‘Tiding’ o Biod i ‘Zephyr’ o Ditw Cynffon-hir. Mae cyfres o lyfrau i gyd-fynd â’r arddangosfa hefyd ar werth.
Pethau Bach
Mehefin 11 – Gorffennaf 24
![]() |
Mae’r arddangosfa hon o baentiadau, darluniau a gwaith argraffu gan yr artist Eleri Jones yn canolbwyntio ar y ‘pethau bach pwysig’. Prif destun yr arddangosfa yw trugareddau ac arddurniadau o dˆy ei nain a chartref ei rhieni, golygfeydd o sioeau bach lleol a marchnadoedd lliwgar yn India a Nepal. Ymysg pethau eraill a ddarlunir mae tirluniau o Gymru a thu hwnt ynghyd â bywyd dyddiol y fferm deuluol.
Cerdded ar hyd y Traeth
Gorffennaf 30 – Medi 18
![]() |
Arlunydd cyfoes o fri yw Howard Coles, sy’n gweithio’n bennaf mewn olew
a chyfrwng cymysg.
Nid yw hon yn gymaint o “arddangosfa o ddarluniau” ac a ydyw o
ddehongliad o’r ffyrdd y mae Howard wedi darlunio rhyw agwedd
arbennig o dirwedd yr arfordir. Gan ei fod yn byw ar benrhyn gweddol
gul fe fyddai’n anodd dianc oddi wrth olygfeydd a sˆwn y môr. I arlunydd
sydd yn fwy sensitif na’r mwyafrif ohonom i dempo a deinameg y
dirwedd gyda’r llanw o’i chwmpas, mae’n cydnabod y byddai’n
annaturiol iddo deimlo’n wahanol am agosrwydd y môr, bregusder
llinell y traeth a phatrymau’r tywydd sy’n gwahaniaethu hon oddi
wrth ardaloedd mwy mynyddig Eryri.
Le Chéile
Medi 24 – Tachwedd 6
![]() |
Mae’r arddangosfa hon yn brosiect cydweithredol Cymreig-Gwyddelig: cyfathrebu trwy wneud printiadau.
“Le Chéile” yw’r Wyddeleg am “gyda’n gilydd”, yn yr ystyr o “gysylltu” neu “gyfarfod”.
Yr hyn sy’n gwneud y cydweithrediad hwn yn arbennig o wahanol yw’r
ffaith nad yw’r artistiaid bob amser yn gweithio yn yr un fangref ffisegol ac
felly mae’r gwaith yn cael ei gynhyrchu’n ddilyniannol. Does yna ddim
cyfathrebu wyneb yn wyneb, dim torri ar draws dialog, dim trafodaeth a
dim ymateb ar unwaith. Bydd yr arlunydd sy’n cydweithredu yn ymateb i’r
gwaith sydd o’i flaen ef/hi. Mae’r gwaith yn datblygu o bellter, yn araf.
Felly, oherwydd yr ymateb hwn sydd wedi’i oedi, mae’r prosiect yn un
tymor hir ac y mae yn awr yn symud i’w gyfnod nesaf.
Ffair ‘Aeaf
Tachwedd 12 – Rhagfyr 24
![]() |
Crochenwyr Gogledd Cymru
Jac Do
Ffair Grefftau
Gwledd o waith traddodiadol a chyfoes gan aelodau Crochenwyr Gogledd Cymru ynghyd â gwaith crefft unigryw gan rai o'r crefftwyr gorau.
Cyfle i ddod o hyd i anrheg arbennig.