Cymraeg | English

Arddangosfeydd Oriel Hanes

Charles Tunnicliffe

Charles Tunnicliffe

Yn yr Oriel Hanes ceir arddangosfa barhaol o waith Charles Tunnicliffe, un o arlunwyr bywyd gwyllt enwocaf yr ugeinfed ganrif.

Ym Malltreath ger aber yr Afon Cefni ar Ynys Môn yr oedd stiwdio yr artist ac o'r stiwdio hon y bu'n gweithio am 35 mlynedd. Lluniau yn portreadu cyfoeth bywyd gwyllt Môn a ddaeth ag enwogrwydd i Charles Tunnicliffe, ond hefyd roedd yn cynhyrchu tirluniau ac astudiaethau o bobl leol. Mae gan Oriel Ynys Môn gasgliad unigryw o waith yr artist.

Gellir gweld canran o gasgliad unigryw yr Oriel yn yr Oriel Hanes.

‘Astudiaethau’r Buarth’
Mai 14 - Rhagfyr 24

Disgrifiwyd Charles Tunnicliffe fel artist “…gyda llygaid naturiaethwr, calon bardd, llaw’r crefftwr – myfyriwr pob elfen o fywyd naturiol ……” a bydd y casgliad o’r astudiaethau yma sy’n cael ei arddangos yn Oriel Ynys Môn ar hyn o bryd yn tystio hynny.

Dangosir darluniau amrywiol a gynhyrchwyd gan Tunnicliffe ar gyfer y llyfr ‘How to Draw Farm Animals’ a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1947.
Bydd esiamplau gwych o anifeiliaid fferm i’w gweld yn amrywio o geffylau, defaid, moch, gwartheg, cwn a mwy.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

--------------------------------------------

Hanes yr Hynafiaethwyr
Gorffennaf 16 – Rhagfyr 24, 2011

Dathlu 100 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn: cyflwyno safleoedd a darganfyddiadau cyffrous y rhai a fu'n gweithio i
warchod gorffennol yr ynys ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

chief druid

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Hanes yr Hynafiaethwyr