| Cymraeg | English |
Oriel Kyffin Williams
Yn ystod Haf 2008 cafodd Oriel Ynys Môn y fraint o agor drysau i’w horiel newydd - Oriel Kyffin Williams, digwyddiad oedd yn hir ddisgwyliedig ym myd y celfyddydau. Cafodd yr oriel £1.5m newydd ei hagor yn swyddogol gan y Fonesig Môn gyda gwesteion o bob cwr o Gymru a’r Deyrnas Unedig yn ymgynnull ar gyfer y dathliad.
Roedd Syr Kyffin Williams yn hyrwyddwr brwdfrydig o’r celfyddydau yng Nghymru, a bu’n gefnogwr brwd a gweithgar o waith Oriel Ynys Môn ers iddi agor yn 1991. Mae’r Oriel newydd yn deyrnged priodol a pharhaol i un o artistiaid enwocaf a mwyaf uched ei barch yng Nghymru.
Roedd Kyffin Williams ei hun yn gwbl gefnogol i’r cynllun ac yn frwdfrydig yn ei gylch. O’r cychwyn cyntaf bu’n rhan o'r gwaith o ddewis lleoliad a chynllunio’r oriel newydd. Cafodd ei syniadau a’i awgrymiadau eu cynnwys yn y cynlluniau, a dderbyniodd sêl bendith ganddo cyn ei farwolaeth ar 1 Medi, 2006.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cyng Phil Fowlie, “Bydd Oriel Kyffin Williams yn deyrnged addas i gyflawniad artistig y dyn ac yn gartref parhaol i fwy na 400 o weithiau celf a roddwyd yn rhodd. Bydd yr oriel newydd hefyd yn hwb mawr i’r celfyddydau ym Môn ac yn caniatau i bobl Cymru a thu hwnt rannu a mwynhau gwaith Kyffin Williams.”
Mae Oriel Kyffin Williams wedi cael ei hariannu gan Gyngor Sir Ynys Môn, Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams, Llywodraeth Cynulliad Cymru , Cyngor Celfyddydau Cymru ac unigolion.
Dyma sylwadau rhai ymwelwyr:
‘Cofeb werthfawr’
‘Wedi rhoi Cymru ar y map’
‘Gwefreiddiol. Byddaf yn ôl yma yn fuan’
‘Oriel deilwng o’r arlunydd ac o’i Fam Ynys. Dawn yn ôl ac yn ôl’