| Cymraeg | English |
Nwyddau
Mae 12 print, a ddewiswyd o’r gwaith gwreiddiol a roddwyd i Oriel Ynys Môn gan Syr Kyffin Williams ei hun, ar werth yn Oriel Ynys Môn. Cynhyrchwyd y printiau gan Curwen Press, Caergrawnt. Mae gan bob print rediad o 350, oll wedi cael eu harwyddo gan yr artist.
Dyma gyfle unigryw i’r rhai sy’n mwynhau ac yn casglu celf i brynu esiamplau o waith Syr Kyffin Williams, a’r un pryd cynorthwyo Oriel Ynys Môn ac Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams i hyrwyddo gwaith yr artist arbennig hwn.
Mae'r printiau hyn ar werth o siop Jac Do yn Oriel Ynys Môn.
Ffôn : 01248 752004
Mae’r printiau yma o waith Kyffin Williams ar werth yn Oriel Ynys Môn yn unig. Fe’i cynhyrchwyd o’r gwaith gwreiddiol sy’n rhan o gasgliad Oriel Ynys Môn.
Glanrafon £50 |
Llanddwyn £50 |
|
![]() |
||
Porth Cwyfan £50 |
Old Man at funeral £50 |
Ben £50 |
Mae'r printiau hyn ar werth o siop Jac Do yn Oriel Ynys Môn.
Ffôn : 01248 752004
Mae llyfr arbennig, ‘Kyffin’ wedi cael ei gynhyrchu i glodfori Oriel Kyffin Williams. Mae’r llyfryn hwn yn llawn lluniau o gasgliad Oriel Ynys Môn sy’n cofnodi pethau sy’n gyfarwydd i ni, ond hefyd cawn hen ddelweddau pwysig sydd wedi hen ddiflannu. Yn ogystal â’r darluniau, mae yma nifer o baentiadau olew sydd ymhlith y gorau a gynhyrchodd Kyffin erioed.
Pris: £7.95
Mae'r llyfr hwn ar werth o siop Jac Do yn Oriel Ynys Môn
Ffôn : 01248 752004

Mae casgliad o nwyddau, yn seiliedig ar waith Kyffin Williams, fel llyfrau ysgrifennu, llyfrau braslunio, cardiau cyfarch a chardiau post hefyd ar werth yn y siop.
















