Cymraeg | English

Hanes

Ganed John Kyffin Williams, yr ail o ddau fab, ger Llangefni ar y 9fed o Fai, 1918. Treuliodd ei flynyddoedd cynnar ymaith o Fôn wedi i’w dad gael ei wneud yn rheolwr banc yn y Waun. Fe fu’r teulu yn byw am gyfnod byr wedi hynny ym Miwmares, ac yna ger Pentrefelin ar Benrhyn Llŷn.

Ar ôl gweithio am gyfnod gyda chwmni asiantaeth tir ym Mhwllheli fe ymunodd Kyffin gyda 6ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol (Y Fyddin Diriogaethol). Yn cael ei gomisiynu’n ail Lefftenant fe wasanaethodd yng Ngogledd Iwerddon a Wrecsam, ond oherwydd cyflwr epilepsi cafodd ei ryddhau ym 1941. Wedi hyn fe astudiodd Kyffin Williams yn Ysgol Celf Gain y Slade: “Doeddwn i ddim ffit i wneud dim byd arall medda nhw.” Teimlodd nad oedd ganddo’r gallu i luniadu, a sawl gwaith adroddodd fod ei athro lluniadu yn cymharu ei noethluniau i goed derw.

Ym 1944 cafodd Kyffin swydd fel Uwch Athro Celf yn Ysgol Highgate yn Llundain. Fe ddysgodd yno am ddeng mlynedd ar hugain, ond dychwelodd yn aml i ogledd Cymru i baentio’r mynyddoedd, y ffermydd a’i phobl. Ym 1968 fe dderbyniodd Gymrodoriaeth Winston Churchill i ymweld â’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Ym 1974 dychwelodd i Fôn i fyw, ac yn fwy nag yr un artist arall, enillodd barch a chariad pobl Cymru.

Cynhaliwyd arddangosfa gyntaf Kyffin Williams, Welsh Landscape Painting, yn P&D Colnaghi & Co yn Llundain. Wedi hynny bu’n arddangos yn rheolaidd mewn orielau yn cynnwys orielau Leicester a Thackeray yn Llundain, orielau Howard Roberts ac Albany yng Nghaerdydd ac Oriel Tegfryn ym Mhorthaethwy.

Roedd Kyffin yn Lywydd o’r Academi Frenhinol Gymreig yng Nghonwy o 1969 hyd at 1976 ac eto o 1992. Fe enillodd sawl anrhydedd, ond ei bleser mwyaf oedd cael ei ethol i’r Academi Frenhinol. Yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ym 1999 fe’i gwnaed yn Farchoglwydd.

Bu farw Syr Kyffin Williams ar y 1af o Fedi 2006 ac fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys y Santes Fair, Llanfair-yng-Nghornwy, lle’r oedd ei hen daid wedi gwasanaethu fel rheithor.

“Mae llawer o baentwyr tirluniau yn ymateb i’w gwlad eu hunain yn gryfach nag i’r un arall, ac rwy’n fodlon aros yng Nghymru a phaentio fy rhan neilltuol i fy hun ohoni. Yn Ynys Môn mae’r ffermydd a’r bythynnod gwynion yn fy nghroesawu, ac ar draws Afon Menai gallaf weld y mynyddoedd rhyfeddol yna ac rwy’n gallu manteisio arnyn nhw pa bryd bynnag rwyf am wneud hynny.”