Cymraeg | English

Digwyddiadau

 

 

 

 

 

Arddangosfa Kyffin Williams ‘O’r Aelwyd i’r Oriel’
Mawrth 17 – Hydref 7, 2012

A oes gennych chi baentiadau neu luniadau gwreiddiol gan Kyffin Williams?

Mae Oriel Ynys Môn angen eich help.

Rydym yn chwilio am waith i’w benthyca ar gyfer ein harddangosfa nesaf ‘O’r Aelwyd i’r Oriel’

hermon

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Ian Jones (01248 752082) neu
Nicola Gibson (01248 752014) os gwelwch yn dda.

 

Dewch ar Daith o Fôn i Fenis

Fe gynhelir Darlith Flynyddol Syr Kyffin Williams, a drefnir gan Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams ar nos Wener, Mai 11 am saith o’r gloch yn Oriel Ynys Môn, Llangefni.

Fe fydd y ddarlith, Gymraeg, gyda’r teitl “O Fôn i Fenis” yn cael ei chyflwyno gan, David Meredith, awdur a chyn bennaeth cysylltiadau cyhoeddus HTV a S4C.

Mae tocynnau ar werth yn Oriel Ynys Môn am £5.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Oriel Ynys Môn ar (01248) 724444.

hermon