Cymraeg | English

Gwobr Arlunio Kyffin Williams 2009 ~ Enillwyr

Cyflwyniad | E-Arddangosfa | Artistiaid | Enillwyr | Llyfr Gwesteion

 

 

 

Gwobr Gyntaf ~ “Deep Inside” gan Louisa Theunissen

Louisa Theunissen

 

Rhoddir y Wobr Gyntaf i Louisa Theunissen am “Deep Inside”, lluniad a hudodd y beirniaid gan ei rymuster barddonol. Y mae’n lluniad ag ynddo danbeidrwydd dwys, pruddaidd; y mae ar un waith yn diffinio ofnadwyaeth farnol marwolaeth ac yn mynegi rhyw arswyd arall.

 

"Braint imi yw cael fy newis fel enillydd Gwobr Arlunio Kyffin Williams. Mae hefyd yn bleser gen i gael y cyfle i arddangos efo rhai o artistiaid arlunio gwych Cymru drwy'r arddangosfa fawreddog hon.

Cefais y fraint o gyfarfod y diweddar Syr Kyffin Williams mewn agoriad arddangosfa Celf Cymunedol yn Y Capel, Llangollen. Yn ei araith soniodd am y diffyg dysgu arlunio oedd yn bodoli mewn colegau celf cyfoes. Fe’m hysgogwyd gan hyn i ddatblygu a bod wrth fy modd yn arlunio.

Fe'm ganed yng Ngogledd Cymru ac fe astudiais Gelf Cain yn Ysgol Celf a Dylunio Gogledd Cymru o 2001 i 2004 lle cefais radd gydag anrhydedd. Rwy'n gweithio o Gymru rhan fwyaf o’r amser. Teithiaf o gwmpas yn chwilio am dai, ffatrïoedd, siopau a warysau segur, gan ymdrechu i ddal yr awyrgylch anniffiniol sydd yn bodoli mewn llefydd fel hyn a thrwy arlunio mynegi emosiynau na ellir geiriau ddisgrifio."

 

Ail Wobr ~ “Hunan-bortread” gan Dafydd Hedd ap Hywel

Louisa Theunissen

 

 

 

Rhoddir yr Ail Wobr i Dafydd Hedd ap Hywel am ei “Hunan-bortread.” Ei fan cychwyn ef yw’r modelau clasurol. Y mae ei luniadaeth yn hyderus ac yn llawn mynegiant. Gyda rhyddid sydd eto’n ddisgybledig y mae’n creu (ac yn colli) ffurf, ac y mae’n dyfeisio gweadau ychwanegol y mae iddynt ffresni greddfol.

 

 

"Pan o'n ni'n blentyn tynnu llun oedd popeth. Wrth droi'n ddyn, a chyfrifoldebau'n gwasgu, daeth i fod yn rhwy fath o salwch, yn mynnu dwyn amser cyndyn yn y llyfr llunio pob hyn a hyn.

Felly mae ennill gwobr fel hyn am yr hunan bortread hwn yn gysur mawr ac yn ysbrydolaeth tuag at yr hyn y gallai celf ei olygu yn fy mywyd. Diolch o galon i'r sawl sy'n parhau i hybu pwysigrwydd y celfyddydau yn y byd sydd ohoni."

 

 

Llun yn dangos Gweinidog Treftadaeth y Cynulliad, Alun Ffred Jones AC, yn siarad gyda Louisa Theunissen am ei llun buddugol "Deep Inside".