Cymraeg | English

Gwobr Arlunio Kyffin Williams 2009 ~ Cyflwyniad

Cyflwyniad | E-Arddangosfa | Artistiaid | Enillwyr | Llyfr Gwesteion

Un o’r pethau y byddai Syr Kyffin yn rhefru yn eu cylch yn ystod ei flynyddoedd olaf oedd y ffaith na ddysgai ysgolion celf luniadu (drawing). Dyna’n rhannol pam y penderfynodd Ymddiriedolaeth Kyffin Williams eleni gynnig Gwobr Luniadu. Yn yr Adran Agored cafwyd ymateb rhagorol o ran ansawdd a nifer y gweithiau; nid felly yn yr Adran i Fyfyrwyr.

Y mae lluniadu yn sail i’r iaith weledol a ddefnyddia artistiaid i lunio’u celfyddyd. Dyna beth sy’n eu galluogi i gofnodi beth a welant, dyna beth sy’n caniatáu iddynt ddeall natur a hanfod eu testun, a dyma beth sy’n caniatáu iddynt adnabod eu dehongliad dychmygus o’r testun. Pan ddywedwn mai’r ffordd orau o gofnodi iaith weledol yw trwy ddefnyddio llyfrau lluniadu, yr ydym yn syth bin yn pwysleisio pwysigrwydd sylfaenol lluniadu. Eu meistrolaeth o luniadu sy’n arwain artistiaid, drwy wybodaeth a myfyrdod ac athroniaeth, i ganfod arddull sydd ar yr un pryd yn dechneg arloesol ac sy’n ddehongliad o fywyd. Y dychymyg sy’n dehongli bywyd yw’r hyn a alluoga gwŷr a gwragedd a chanddynt ddoniau artistig i godi uwchlaw’r byd materol a’i ail-greu yn deimladwy a  phrofiadol. Oblegid y grym sydd ganddi i ddychmygu pethau’n drosgynnol y mae llawer ohonom yn ceisio celfyddyd ac yn ei mawrygu.

Mewn nifer o ysgolion a chyfadrannau celf trowyd cefn ar luniadu – lluniadu’r corff dynol, er enghraifft, – ac aethpwyd i’w ystyried fel gweithgarwch ofer. O ganlyniad, graddiodd cenedlaethau o artistiaid gweledol o’r colegau heb fod ganddynt iaith weledol, y sail i ddehongliad dychmygus hyderus. Y mae eisiau adfer lluniadu fel elfen sylfaenol o addysg artistiaid.

Y mae’r ffaith mai llond dwrn o luniadau gan fyfyrwyr a ystyriwyd yn deilwng o gael eu cynnwys yn yr Arddangosfa yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd mewn ysgolion celf, ac yn dystiolaeth o’n gofid. Yr oeddynt yn weithiau diddorol, ond yr oeddynt yn ddiawdurdod ac yn ddiddychymyg. Penderfynodd y beirniaid yn unfryd i beidio â dyfarnu’r Wobr i Fyfyrwyr.

Cafwyd nifer mawr o gynigion ar gyfer y Wobr Agored, gan rychwant nodedig o artistiaid a ddefnyddiodd eu hieithoedd gweledol eu hunain. Yn eu plith yr oedd rhai esiamplau o sylwadaeth ‘obsesiynol’ o’r radd uchaf, ychydig esiamplau o artistiaid medrus yn dal argraffiadau’r funud mewn delweddau o faint y llyfr lluniadu, a rhai darnau o bwys a oedd yn gymhleth ac yn fawr.

 

Rhoddir y Wobr Gyntaf i Louisa Theunissen am “Deep Inside”, lluniad a hudodd y beirniaid gan ei rymuster barddonol. Y mae’n lluniad ag ynddo danbeidrwydd dwys, pruddaidd; y mae ar un waith yn diffinio ofnadwyaeth farnol marwolaeth ac yn mynegi rhyw arswyd arall.

Rhoddir yr Ail Wobr i Dafydd Hedd ap Hywel am ei “Hunan-bortread.” Ei fan cychwyn ef yw’r modelau clasurol. Y mae ei luniadaeth yn hyderus ac yn llawn mynegiant. Gyda rhyddid sydd eto’n ddisgybledig y mae’n creu (ac yn colli) ffurf, ac y mae’n dyfeisio gweadau ychwanegol y mae iddynt ffresni greddfol.

Buasai Syr Kyffin wrth ei fodd gyda’r ystod o weithiau a ddetholwyd ar gyfer Arddangosfa’r Wobr, a buasai wedi gwerthfawrogi a mwynhau ei ansawdd. Yr ydym yn falch iawn o gael yr anrhydedd o feirniadu’r Wobr Luniadu.

PAUL JOYNER
CHRISTINE KINSEY
ELERI MILLS
DEREC LLWYD MORGAN
MAURICE SHEPPARD