| Cymraeg | English |

Cyflwyniad | E-Arddangosfa | Artistiaid | Enillwyr | Llyfr Gwesteion
Rwy’n gweithio gan fwyaf gydag olew, dyfrlliw a siarcol.
Fodd bynnag, mae gen i ddiddordeb arbennig mewn gweithio ar luniau siarcol. Mae’r rhyddid a geir drwy ddefnyddio siarcol yn creu marc dramatig ac amrywiol. Mae’r cysgodion a’r gwagle gwyn agored yn cyfleu realaeth sydd â disgyrchiant na ddarganfuwyd gyda phensil. Mae’r llif a’r chiaroscuro yn rhoi cyfle i’r gwyliwr greu delweddau newydd gyda’r dychymyg.
Y mae traddodiad i’r defnydd o siarcol, hefyd, y gellir adeiladu arno. Y mae sawl campwaith wedi’i greu gan ddefnyddio’r cyfrwng yma, a gall arlunwyr sy’n dechrau eu gyrfa hyd yn oed fynegi gyda’r ffyn siarcol hyn, sy’n ymddangos fel pe bai’n datod emosiwn a chyffwrdd rhywbeth o fewn yr hunan ddynol ac ysbrydol na welir mewn gweithiau eraill. Efallai fod hynny oherwydd ei natur – yn rhan o’r hyn y mae’r ddaear wedi ei gynhyrchu erioed.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch yma
Cefais hyfforddiant fel biolegydd cyn graddio mewn celfyddyd gain. Arlunio yw prif ddull cofnodi y ddau fyd, ac mae hefyd yn gyfrwng hyblyg diddiwedd i mi archwilio’m diddordeb mewn llinell, tonyddiaeth a ffurf. Rwyf ar hyn o bryd yn arbrofi â dulliau o gyfuno fy ngwybodaeth biolegol â safbwyntiau ehangach a chyfeiriadaeth celfyddyd gain.
Mae fy ngwaith yn tueddu i ganolbwyntio ar fyd naturiol bob dydd: darn o dir anial, gardd gefn o lysiau. Strwythur planhigion, pryfaid a.y.y.b sy’n cyfansoddi’r tirlun.
Yn y ddau lun a welir yma, mae ffurf y planhigion wedi’u darlunio yn fwriadol yn nhraddodiad y bedwaredd ganrif ar bymtheg o ysgythriad botaneg wedi’i weithio’n dda; ond yn hytrach na chael ei gyflwyno fel enghreifftiau wedi’u hynysu, gwelir hwy yn eu hamgylchedd naturiol. Er bod y ddau lun wedi eu gweithio mewn dulliau tebyg, mae eu hegni a’u heffaith yn hollol wahanol.I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch yma
Mae fy ngwaith yn ymwneud â’r cysylltiad parhaus gydag iaith arlunio a’i le o fewn ymarferiad celfyddydol cyfoes. I mi, mae arlunio yn dod yn fan i archwilio a dathlu’r syniad o sgwrsio a pherthynas – y man hwnnw rhwng y nod a’i gyrraedd, rhwng y darlun a’r arsylwr, creu delwedd a chreu ystyr. Yn aml wedi’u tynnu o’u cyd-destun gwreiddiol, nod y delweddau yw gwadu unrhyw ddarlleniad penodol, gan gynnig yn hytrach fyrdd o bosibiliadau – cipolwg ar ennyd o ‘ddod i fodolaeth’.
Mae’r corff diweddar o ddarluniau yn archwilio’r berthynas ryfedd a chwilfrydig rhwng dynion ac anifeiliaid, sydd weithiau’n creu problemau.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch yma
Yr Ail Wobr yng Nghystadleuaeth Lluniadu Kyffin Williams 2009
Gydag anhawster rhaid cyfaddef bod hyn yn gyfnod o ansicrwydd ym mywyd yr artist. Dywedaf ‘yr artist’ gan fod ei fodolaeth ef, o hyd, yn anodd i’w gyfiawnhau ac am nad yw e’ wedi, hyd yn hyn, cynnig yr un ateb ymarferol tuag at hwyluso’r sefyllfa.
Wrth boeni am gylchedd ei boch neu am lewys ei gwisg, neu am y gofid pell ym mherfeddion ei llygaid; wrth gredu mewn cyffyrddiad a gobeithio’n helaeth am ddyrchafiad; wrth gredu mewn pensil, brws ac mewn cynfas sy’n cynnig diawl o ddim i ateb gofidion parod y bywyd hwn ac i wneud hyn oll yn frwd, heb feiddio gofyn pam a gydag angerdd pur plentyn; gwelaf eto, heb ryddhad, mai hwn sy’n parhau fel uchelgais mwya’r artist.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaRoedd y fodel hon yn llawer o hwyl i’w dylunio. Roedd ei dillad a’i hesgidiau yn lliwiau cryf a llachar, ac roedd ganddi wallt ‘bob’ golau, minlliw coch a sbectol. Bywiogrwydd a lliw'r testun oedd yr ysbrydoliaeth i’r modd yr wyf wedi ei darlunio, er nad oes llawer o liw gwirioneddol wedi’i ddefnyddio yn y gwaith ei hun.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch yma
Disgrifiodd John Berger ddarlunio fel ‘casgliad o gyfarfyddiadau’. Hollol gywir.
Rwy’n tynnu llun yr hyn rwy’n ei hoffi. Mae’n ffordd o’u crynhoi, eu perchnogi a rhoi’ch hunan ynddynt. Mae’n ffurf o feddiant: ‘casgliad’.
Mae arlunio yn gofyn am ymrwymiad a chanolbwyntio; mae’n araf, yn anodd, yn amsugno rhywun yn llwyr; y graig orau o’r holl gelfyddydau gweledol.
Mae’n onest, cyffyrddiadol, ac wedi ei wneud â llaw. A dyna a fu erioed.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch yma
Yn gweithio ac yn byw yng ngogledd Cymru, rwyf wedi fy nghyfareddu gan y tywydd cyfnewidiol a’r awyr ddramatig. Mae golau a chysgod yn rhoi ffurf a naws i wrthrych, ac mae sylwi ar yr ardal o ddydd i ddydd yn rhoi cyfle i mi nodi golygfeydd a all ffurfio darlun ryw ddiwrnod, pan fo’r tywydd yn ffafriol. Rwy’n mwynhau archwilio tirwedd gogledd Cymru - yr arfordir, y llynnoedd, mynyddoedd a golygfeydd o fywyd cefn gwlad.
Rwy’n cael ysbrydoliaeth gan bob un o’r tymhorau. O liwiau aur daearol yr hydref, trwy noethni llwm y gaeaf sy’n datgelu ffurfiau trawiadol, i olau ffres y gwanwyn a’r haf sy’n gwau trwy dyfiant newydd o flodau gwyllt a rhedyn mewn coedwigoedd mwsoglyd.
Rwy’n peintio gydag olew, ac yn darlunio gyda siarcol, cyfrwng sy’n gweddu’n dda i ddarlunio golau llachar a chysgod, a’r gwead a welir mewn hen waith carreg a choetir sydd mor nodweddiadol o’r ardal.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch yma
Symudais i Ynys Môn gyda ’nheulu ym 1978. A minnau heb arlunio fawr ddim ers gadael Coleg Arlunio Manceinion yn y chwedegau, fe’m hysbrydolwyd yma gan yr hanes lleol naturiol a rhyfeddol, a dechreuais beintio unwaith eto. Fe arweiniodd hynny at gael printio fy ngwaith mewn dau lyfr peintio botaneg a ‘The Flower Arranger’, a derbyn Medal Aur gan y Royal Horticultural Society yn 2006 am ‘Galendr Môn’, sef cyfres o ddeuddeg tudalen mis wrth fis o flodau, coed, cen a ffyngau a ddarganfuwyd ar yr ynys.
Rwy’n hoff o weithio gyda phensiliau lliw, sy’n dechrau cael ei gydnabod fel cyfrwng celfyddyd gain. Mae’n caniatau defnyddio nifer o haenau o liwiau mewn manylder gwych. Fe’m ysbrydolwyd gan y gangen arbennig yma o bren afalau derw i’w darlunio gyda phensil graffit, gan ei bod eisoes yn destun unlliw diddorol. Rwy’n cael mwynhad arbennig o fanylu a datblygu’r goleubwynt a’r cysgod, a dangos yr amherffeithrwydd anochel sydd ar y rhan fwyaf o blanhigion.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaY mae eiliaed rhwng dydd a nos, pan rwy’n teimlo fel un gyda’r tirwedd sy’n fy amgylchynu, a’r grymoedd sy’n ei ffurfio. Rwyf am archwilio ei gorwelion uchel ac isel, ymylon sydd wedi eu haddurno gyda’n strwythurau cyfoes, sy’n cydio’n dynn wrth y ddaear a’r garreg wlyb. I mi, mae bod yn gyflym a digymell yn hanfodol wrth fynegi emosiwn mewn nod, ac rwy’n ysu am yr amwysedd sy’n dod pan fo pob cyffyrddiad, gwaediad a chrafiad yn ymddwyn yn wahanol. Rwy’n ceisio cyfuno darlunio gyda symudiad peintio, gan dywallt a gollwng yr inc ar y papur, fel bod rhai o’r siapiau yn cael eu creu eu hunain, a’r manylion yn cael eu gwthio i’r ymylon. Rwy’n canolbwyntio’n bennaf ar y berthynas rhwng hap a rheolaeth wrth weithio.
Rwy’n ystyried gwaith llun newyddiaduraeth fy nhad a’r ddisgyblaeth a ddysgais wrth gynllunio ar gyfer y theatr fel y dylanwadau cryfaf a mwyaf cyson ar fy ngwaith.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch yma
Fe’m ganwyd ym 1943, fy magu yn Llundain, ond ers canol y 1960au rwyf wedi byw yn Cumbria, Yr Alban a Chymru. Bûm ar gwrs sylfaen llawn amser ym Mangor yn yr 1980au. Yn ddiweddar, bûm mewn Dosbarthiadau Bywyd Ysgol Addysg Gydol Oes Prifysgol Bangor. Caiff fy ngwaith ei arddangos mewn lleoliadau amrywiol, ac fe’m comisiynwyd i beintio Murlun ym Mhrifysgol Bangor a nifer o’r byrddau gwybodaeth yn Llyn Alaw, ynghyd â dylunio taflenni’r safle.
Darlun siarcol o Eurflodau/Chrysanthemums. Fe arhosais nes eu bod bron â chael eu taflu. Teimlais fod y blodeuyn marw oedd wedi sychu’n grimp a’i coesau fel ffyn yn peri i mi eu darlunio gyda brwdfrydedd. Dim sôn am ddyddiau heulog yn yr ardd, dim ond duwch gydag ychydig o olau. Yn hytrach na dangos gwrthrychau a thirwedd yn union fel y maent, rwy’n ceisio dehongli eu lliwiau a’u siapiau. Rwy’n gweithio gydag amrywiaeth o gyfryngau; mae’n dibynnu ar y testun.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaMae “32 WYTHNOS” yn portreadu siâp menyw yn wythnosau olaf ei beichiogrwydd.
Roeddwn yn ffodus bod y fodel - ffrind i mi oedd yn feichiog am y tro cyntaf, wedi cytuno i eistedd i mi bob pedair wythnos trwy gydol ei beichiogrwydd.
Darlunio bywyd yw’r pwynt cychwyn, neu hanfod fy holl waith. Er mwyn mireinio symudiad fy llaw a’m llygaid, rwy’n ceisio arlunio’n ddyddiol, fel y byddai pianydd cyngerdd yn ymarfer ei raddfeydd, neu scales.
Os yw’r testun yn symud – fel ceffylau, cerddorion a dawnswyr, ‘dyw hyn ond yn cynyddu llif yr adrenalin wrth i mi fynegi’r ysbryd, i grisialu craidd y realaeth o’m blaen. Mae’r ymarfer arlunio yma yn gosod sylfaen i darddiad gweddill fy ngwaith.
Hanfod arlunio, i mi, yw marcio egnïol - llwyddo i gael y cyfuniad perffaith o offer, cyfrwng a chefnogaeth er mwyn dangos y llwybr i bopeth ddod ynghyd - casgliad sy’n dathlu fod y llaw a’r llygaid mewn cytgord.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaMae “Cup” neu “Cwpan”, yn un o 50 o luniau a gynhyrchais tra’n mynychu cyfnod preswyl yn y Philadelphia Clay Studio, yn yr Unol Daleithiau. Mae’r gwaith yn cyfeirio’n benodol at farwolaeth dau ffrind gwrywaidd yn ifanc iawn gan ganser.
Mae’r darluniau wedi eu trwytho â theimlad o ddarfod; ar unrhyw adeg gallai’r clai gael ei olchi ymaith oddi ar wyneb y papur i adael dim ond staen; mae clai wedi plicio oddi ar y delweddau. Yn fwriadol, tu mewn o hylif sydd gan y cyrff gydag amlinell bensil, tra bod eraill heb ffin amlwg ac yn gwaedu oddi ar y dudalen, heb eu cyfyngu gan ymyl y papur.
Mae “Cwpan” yn hunan bortread wedi’i arlunio mewn clai a phensil, a’r deunydd yn cyfeirio’n union at y gwrthrych rwy’n ei afael. Mae’r cwpan, a’r weithred o gwpanu dwylo yn arwydd o gysur a chynhaliaeth.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch yma
Rwy’n ystyried arlunio fel prif ffurf mynegiant gweledol. Yn y broses o arlunio, rwy’n dysgu gweld, a dod yn ymwybodol o bosibiliadau creadigol. Mae’r tri gwaith dewisol ar gyfer eu harddangos yn dangos rhai agweddau gwahanol o’r broses.
Lucas
Astudiaeth gyflym mewn llinell yn symud yn rhydd o’r cyffredinol i’r neilltuol. Mae’r llinellau â gwagle rhydd rhyngddynt yn awgrymu cysgodion, ac mae osgo’r corff yn uno i ffurfio tonyddiaeth sydd, yn fanylach, yn disgrifio pen a chymeriad yr wyneb.
Y Cantorion
Darlun o gantorion corawl yn dangos mynegiant gwahanol a’r ymroddiad angerddol i’w sain. Y mae wedi’i gyflawni’n rhannol gan amrywiaeth mewn llinell, ymylon toredig mewn ffurf, ac unoliaeth cefndir o naws dywyll yn cyferbynnu gyda’r papur gwyn.
Gweithwyr
Mae’r llun o ddau weithiwr yn codi’n unionsyth o’r papur gwyn, gydag awgrym o ddwylo a lliwiau tywyllach y dillad, i wynebau manylach. Gwelir yr holl elfennau hyn drwy farciau syml o linellau a darnau o dôn. Fe’u gosodwyd yn erbyn cefndir tywyll, sydd â mwy o amrywiaeth a llewyrch nag a ymddengys ar yr olwg gyntaf.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch yma
Mae’r darlun ‘Dideitl’ yn dod o gorff o waith parhaus o dros 400 o luniau dyfrlliw a sawl gwrthrych 3D o dan y teitl ‘‘From Brynna To Merthyr Mawr & Others Stories’.
‘Maent yn gipolwg o atgofion, digwyddiadau ac arsylwadau o fagwraeth plentyn, atgof o fywyd mewn un gymuned fach Gymreig, gweddol ynysol yn ei dydd. Gyda’i gilydd, maent yn gweithio yn yr emosiwn yn yr un modd ag y mae straeon gwerin, fel ymateb emosiynol i’r amgylchedd caeedig, gan ddiffinio’r gymuned wrth ddefnyddio symbolau a ellir eu hadnabod yn bennaf ganddynt hwy yn unig, gan ein denu i fyd ffantasi; dod â hud a lledrith i’r daearol, a dangos yr anghyffredin mewn bywyd undonog bob dydd.’ - Pete Stevenson, Aberystwyth, 2009.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaRwy’n caru lliwiau, ac wrth fy modd gyda chnawdolrwydd paent, ond yn canfod fod fy rheswm gwreiddiol am greu’r ddelwedd yn dod yn ail i’r broses o beintio! I mi, mae peintio yn golygu misoedd o adeiladu a chwalu, penderfyniadau am arwyneb, lliw a.y.y.b. sy’n aml yn mynd â mi ymhellach oddi wrth fy ymateb gwreiddiol.
Deuthum i sylweddoli fod yn rhaid i destun fy ysbrydoli, rhyw angen neu frys i greu ei debyg. Yn eironig, rwy’n dal i fynd trwy broses debyg wrth beintio, ond rwy’n teimlo fod arlunio yn reddfol, yn angerddol a digymell, sy’n cadw’r cyffro gwreiddiol. I mi, does dim byd yn cymharu ag arlunio.
Rwyf wedi ceisio creu gweithiau bychain, ond teimlaf fod ehangder gweithiau mawr yn rhoi llawer mwy o foddhad.
Mae angen elfennau o ‘fynd â llinell am dro’ yn fy nhirluniau, fel yn ‘Windforms’, cyfres o gaeau cymhleth sy’n rholio ac ymglymu, a choed yn chwifio yn y gwynt ar ymyl y Fenai.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaMae fy ngwaith yn ymchwil i dechnegau a ddefnyddir gan arlunwyr ac ymarferwyr eraill mewn llunio gofod mewnol a chartrefol ar lefel dau ddimensiwn. Rwy’n astudio gwaith rhai o fy hoff arlunwyr, gan ddehongli darluniau i’w harchwilio a rhoi sylwadau ar eu hadeiladwaith. Mae’r astudiaethau o ganlyniad yn cael eu cynrychioli fel delweddau; dehongliadau o’r technegau a archwiliwyd sy’n cyfleu fy sefyllfa bersonol ar y pryd.
Mae’r llun sy’n cael ei ddangos yn cyfeirio’n uniongyrchol at faterion gaiff eu hwynebu wrth ddelio gyda chyflwr parhaus yn y sustem dreulio, Achalasia, yn 2006/7. Yn y ddelwedd arw, rwy’n gosod fy hun fel y cymeriad, gan astudio newid ynof fy hunan, fy nghorff a’i bwrpas o fewn y gofod ffug, cyfarwydd, penodol.
Mae defnyddio anifeiliaid/creaduriaid fel cymeriadau ychwanegol yn ddull o ychwanegu bywyd i’r lluniau heb wneud y cyfeiriad yn rhy bersonol. Maent hefyd yn ychwanegu dyfnder thematig pellach, gan gadw’r syniad o ffantasi a chartŵn mewn cyfeiriadaeth at ganfyddiad, rhyw a diagnosis meddygol.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaWrth brintio, rwy’n creu delweddau yn syth o’m brasluniau drwy gynhyrchu negatif. Caiff hwn wedyn ei arddangos ar y sgrîn gan adael i mi wasgu lliwiau gwahanol drwy’r rhwydwaith yn union fel stensil. Weithiau, byddaf yn peintio ar y sgrîn yn syth gyda’r inc i greu cefndir ar gyfer y printiau.
Gan weithio mewn haenau, rwy’n adeiladu’r ddelwedd ac yn defnyddio’r un stensil dro ar ôl tro i greu dehongliadau gwahanol o’r llun gwreiddiol. Gall fod ar bapur wedi’i ail-gylchu, neu hyd yn oed haenau o bapur neu ddeunydd gyda batic.
Arlunio yw’r rhan bwysicaf o’m gwaith, ac rwy’n trin y llinellau gwreiddiol hyn o fewn fy ngwaith.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch yma
Mae Muriel Delahaye yn arlunydd ffigurau, sydd â’i diddordeb pennaf mewn arlunio pobl yn erbyn cefndir y môr a’r traeth y gall eu gweld yn glir o ffenestri ei stiwdio.
Yn wreiddiol o Oldham, Swydd Gaerhirfryn, fe’i hyfforddwyd yng Ngholeg Celf Rhanbarthol Manceinion, cyn gweithio yn ‘Jersey Potteries’ ble bu’n addurno llestri tseina â llaw yn y 1950au. Dychwelodd i Fanceinion, ac ennill tystysgrif i fynd yn athrawes, ac ar ôl dysgu am gyfnod byr, ymfudodd gyda’i mab i Borth ar Fae Ceredigion ble mae bellach yn byw ac yn gweithio ers dros 30 mlynedd.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaMae arlunio wedi bod yn rhan ohonof erioed ac yn reddf naturiol a oedd angen dull i’w fynegi. Teimlaf fod arlunio o fywyd yn sylfaen i bob math arall o arlunio neu baentio gan ei fod angen lefelau uchel o sylwgarwch a chanolbwyntio a chyda natur cnawd nid oes lle i ddianc.
‘Rwyf wedi defnyddio creonau ers blynyddoedd, ond yn ddiweddar wedi chwilio am ffordd o’u defnyddio gydag egni heb rwystrau er mwyn symud oddi wrth arddull dynn a all ddod o’u defnyddio. Canlyniad gweithio gyda chyflymder a lefel uchel o ynni, gan roi haenau o liw ar ben ei gilydd ar bapur gwyn mewn ffordd sydd yn edrych yn flêr a damweiniol, yw gwaith sydd gyda rhyw ddisgleirdeb a bywiogrwydd - ond nid ar ddamwain mae’n digwydd.
Mae croen yn cyflwyno palet anhygoel gan ei fod wedi ei wneud o bob lliw o’r pinc a melyn disgwyliedig i wyrdd, lelog, piws a choch heb sôn am y lliwiau sydd yn cael ei adlewyrchu arno o’r lliwiau oddi amgylch. Mae chwilio am y lliwiau hyn a’u portreadu gyda ffrâm a gosodiad y corff ac ymdeimlad yr eisteddwr yn gyffrous iawn. Gobeithiaf fod y sawl sydd yn edrych ar y llun yn teimlo yr un fath â fi.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch yma
Mae’r ardal a’r wlad a’r hyn sydd yn fy amgylchynu, wedi, ac yn dal i fod yn ysbrydoliaeth i mi wrth greu fy ngwaith, a gwn na fydd hyn yn debygol o newid yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd, rwy’n teimlo fy mod yn parhau i ddatblygu ac yn ymchwilio er mwyn dysgu a darganfod syniadau ac arddulliau a defnyddiau newydd. Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y Coleg yng Nghaerdydd, (UWIC), cefais fy nylanwadu gan weithiau Picasso, yn bennaf gan ei ddarluniau llinell (line drawings) ac yn awr, ddwy flynedd yn ddiweddarach, teimlaf fod y dylanwad hwn yn amlygu ei hun yn fy ngwaith.
Darlun yw hwn o fy hen Daid, Moses Jones, o Benrhyndeudraeth. Cefais fy ysbrydoli i’w greu ar ôl gweld llun ohono ymysg deunyddiau a chofnodion o hanes y teulu.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch yma
Gwneuthurwraig printiau brofiadol yw Ruth Jên Evans; ganed hi yn 1964 yng Nghefnllwyd, ger Aberystwyth. Mae profiad eang o’r byd celfyddydol ganddi; cynhaliodd ei harddangosfa gyntaf yn Fiena, Awstria pan ond yn 25 oed. Ers graddio o Goleg Celf Caerdydd ym 1987, mae wedi arddangos ei gwaith yn rheolaidd trwy Gymru, Lloegr ac yn fyd eang. Er mai printio yw ei phrif weithgarwch, mae wedi ehangu’i sgiliau i gynnwys dylunio, darlunio, murluniau ac addysg rhan amser. Mae’n parhau i fwynhau cyfnodau fel artist preswyl mewn amrywiaeth o sefydliadau, gwyliau ac ysgolion. Y profiadau hynny sy’n cyfoethogi llawer o’r gwaith a gyflawnir ganddi yn ddiweddarach yn ei stiwdio. Yn ogystal ag addysgu printio ar Gwrs Sylfaen yng Nghaerfyrddin a Choleg Ceredigion, mae ganddi hefyd brofiad o weithio mewn ysgolion ac o gynnal gweithdai yn y gymuned. Mae ei gwaith dylunio a darlunio i’w weld ar bosteri, cloriau CD a llyfrau, yn ogystal â chyfres o’i chrysau T a chardiau.
Mae ei gwaith yn cyfuno elfennau naturiol gyda’r haniaethol ac yn amrywio o’r cynrychiadol i’r haniaethol.
“Wrth gyfuno amrywiaeth o brosesau argraffu, dwi’n gweithio’n reddfol i adeiladu’r llun mewn haenau; yna dwi’n dechrau crafu a sgrafellu’n ôl er mwyn dangos beth sydd i’w weld oddi tano… mae’r defnydd o liw, patrwm a marciau haniaethol yn dod o gyflenwad diderfyn o storïau gweledol sydd y tu fewn i mi.”
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaMae’r tri darlun rwyf wedi’u creu i ymateb i Wobr Arlunio Kyffin Williams yn dilyn blwyddyn o beintio, ac felly’r darluniau cyntaf yr wyf wedi eu cwblhau ers amser hir.
Mae fy lluniau yn datblygu o arsylwi, atgofion a dychymyg. Gosodais y bywydau llonydd hyn yn fy stiwdio, a gweithio’n ddyfal gan ddefnyddio cyfuniad o bensil, beiro, creonau dyfrlliw, siarcol a phastel.
Fe fwynheais yr ymarferiad manwl o edrych a marcio wrth ymateb i hynny, cyn cyfnod mwy breuddwydiol o arbrofi.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaInc a Greddf
Rwy’n hoff o arlunio gydag ysgrifbin ac inc. Mae llinell mewn inc yn glir, yn gryf, ac i’r eiliad. Mae’r ysgrifbin yn peri i mi fod ar flaenau ‘nhraed, gan ei fod yn mynnu ymroddiad, ac nid oes ail gyfle gydag inc du ar bapur gwyn. Ac eto, mae’r hyder yn blaguro gydag inc a daw’r llinell yn fwy pendant, yn fwy greddfol. Does gen i ddim diddordeb mewn perffeithrwydd, nac efelychiad. Crisialu hanfod golygfa yn ei ffurf berffeithiaf gydag ychydig o linellau a mymryn o liw sy’n rhoi gwefr i mi mewn arlunio. Mae’r llinell uniongyrchol yn teimlo’n fwy fel adlewyrchiad o’r byd yr ydym yn byw ynddo, yn hytrach na llinell wedi’i mireinio yn gampwaith ar ôl ymarfer.
Charlotte yn Darllen
Rwy’n mwynhau nifer o gyfryngau a thestunau, ond ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar bleserau’r bywyd llonydd a rhyfeddod portreadau. Mae bywyd llonydd wedi bod yn ganolbwynt i’m gwaith arddangos, ond hyd yma, nid yw’r portreadau wedi cael eu harddangos. Ers dechrau 2008, mae grŵp bychan o arlunwyr wedi cyfarfod yn fy nghartref gyda’r nos yn fisol am sesiynau portreadu. Ein ffrindiau yw’r testunau fel arfer, yn hytrach na phobl broffesiynol, ac rwyf fel arfer yn gweithio gyda siarcol, pastel neu baent.
Fodd bynnag, roeddwn wedi gweithio gyda Charlotte am rai blynyddoedd cyn iddi eistedd i ni, felly roeddwn yn ddigon cyfarwydd â’i nodweddion i fod yn weddol hyderus wrth ymgymryd â’r dasg, sy’n hanfodol gydag inc. Roedd y blodyn amaryllis yn ei flodau ac yn edrych yn rhy hardd i’w adael allan o’r cyfansoddiad.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaRwyf wedi bod â diddordeb mewn ffurf ceffylau erioed. Rwy’n gweithio’n bennaf oddi ar ddelweddau wedi eu tynnu mewn digwyddiad yn ymwneud â cheffylau neu sioeau amaethyddol, ac mae’r rhain yn rhoi sylfaen i’m gwaith. Byddaf yn eu defnyddio fel pwynt cychwyn yn unig, ac wedi hynny, rwy’n defnyddio fy ngwybodaeth a’r profiad sydd gen i o ddarlunio, marchogaeth a gweithio gyda cheffylau i ddatblygu’r gwaith. Canolbwyntiai fy ngwaith cynnar ar astudiaethau mwy onglog o linellau, gan fy mod wedi fy hudo gan hanfod a symlrwydd llinell sengl lyfn. Yn fy narluniau inc mwyaf diweddar, rwyf wedi bod yn ceisio crisialu deinameg a thensiwn perthynas ceffylau gyda dyn. Rwyf yn y broses o archwilio mynegiant, lluniau fydd yn cyfleu ffurf solet, strwythur a symudiad trwy, farcio egnïol llawn mynegiant; mae’r cyfan yn ymwneud â cheisio crynhoi ysbryd ac enaid yr anifail.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaMae Virginia Head yn gweithio’n reddfol, gan ddefnyddio dyluniad fel cyfrwng archwiliadol o freuddwydio. Gan weithio o atgofion ac wrth sylwi, mae’n creu naws ble mae ffurf gorfforol ei chymeriadau yn gyfnewidiol, yn newid, ac weithiau’n elastig hyd yn oed. Y mae deuoliaeth yn y dychymyg - perygl ochr yn ochr â thynerwch, swyn wedi ei gyfosod â ffieidd-dra. Mae Head yn awgrymu grym y meddwl dros y corff wrth iddi archwilio dyheadau ac ofnau’r isymwybod, y metamorffosis rhwng dyn â bwystfil, a symudiad cynnil mewn dull dynol. Yn ei animeiddio graffeg, gwrthgyferbynnir ei thechneg dylunio sensitif a chrynedig gan eiliadau o lif a rhyddhad, yn uno dilyniannau fel breuddwydion wedi hanner aros yn y cof.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaArsylwi a Dychmygu:- Cwch bychan o gragen castanwydden yn arnofio ar fôr o gotwm gwyn pur. Oddi mewn iddo, mae glöyn byw cysglyd yn creu nyth diogel rhag peryglon y byd tu allan.
Datblygodd y senario gyfan, a chanfyddwyd yr elfennau wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen. Sut i gyfleu’r môr? Wel codi a gostwng tonnau mewn lliain bwrdd, wrth gwrs!
Am gyferbyniad hyfryd o gyweiriau, gyda’r golau drwy ffenestr fy stiwdio. Mewn llinell a chywair, datblygodd y gwaith gan ddefnyddio amrediad llawn o bensiliau o 4H i 9B a ffyn graffit.
Rwyf angen cwch ar fy nghefnfor; beth well na chragen bigog castanwydden?
Beth am falwen? Mae glöyn byw wedi huno’n dawel ar silff ffenest caffi heulog, gyda’i adennydd plyg yn dynwared hwyl o gynfas.
Welwch chi’r cactws, wedi’i gipio’n slei o blanhigyn fy mam yng nghyfraith?
Tybed pryd y gwnaiff hi sylwi bod ei lliain bwrdd ar goll.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaMae’r gwaith yr wy’n ei arddangos yn yr arddangosfa eleni yn ganlyniad i aros yn yr un lle am chwe blynedd. Ers 2003, rwyf wedi gweithio’n gyfan gwbl oddi ar dirwedd o fewn radiws o saith milltir i’n fferm yng Nghnwclas, ger Trefyclo, Powys.
Ni fyddaf yn gweithio o ffotograff, ac yn aml, byddaf yn ail-ymweld â’r llefydd rwy’n eu peintio a’u dylunio sawl gwaith. Mae ymchwil mewn peintio turlun yn bwysig i mi.
Rwy’n dechrau cerdded.
Rwy’n gwneud cyfres o luniau gydag ysgrifbin, ac yna sgetsus bychain mewn gouache, a darluniau yn y safle mewn acrylic. Mae acrylic yn fy nghynorthwyo i ymateb i’r tirwedd yn fyw fel petai, ac rwy’n edmygu gwaith y diweddar Peter Prendergast.
Mae ‘Power line’ yn ‘waith gwyn’ mewn geso a graffit a ddatblygodd o’r gwaith ysgrifbin a’r dyluniau. Y mae’n waith mynegiannol gyda’r bwriad o alw ar rym y Tirwedd. Datganiad ar sut y mae edrych ar y tirwedd yn wahanol iawn i fod ynddo.
Mae ‘Crucifix’ yn adlewyrchiad o le cyffredin y groes yn nhirwedd heddiw.
Yn y gyfres ‘Corrigan – astudiaeth garreg’, rwyf wedi dod â samplau o garreg, gwair a rhew yn ôl i’r stiwdio, i wneud y gwaith ‘Carreg Ddu’.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaGanwyd Arthur Hughes ym Mangor ym 1944.
“Mae gen i ddiddordeb mewn celfyddyd gain ers pan o’n i yn fy arddegau, ac rwyf wedi mynychu sawl dosbarth peintio, cerflunio ac arlunio. Er i mi gynnal fy niddordeb mewn celf dros y blynyddoedd, prin iawn fu fy ngwaith ymarferol nes i mi ailddechrau ar ôl fy ymddeoliad.
Mae fy mhrif ddiddordeb mewn arlunio, ac yng nghelfyddyd a thechnegau cyfnod y Dadeni. Rwy’n cael fy ysbrydoli gan ddarluniau Michael Angelo Buonarroti, Raffaello Sanzio ac Albrecht Durer.
Credaf mai arlunio yw sylfaen pob celf, ac mai canlyniad diffyg addysg ac ymroddiad i arlunio yw’r dirywiad a welir yn lefelau crefft mewn celf gyfoes.”
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaMae Bryn yn arlunydd sy’n byw yn Ynys Môn, ac sydd wedi addysgu ei hun. Fe ddechreuodd beintio ryw bedair blynedd yn ôl. Yn y cyfamser, mae wedi cynnal pedair arddangosfa mewn llyfrgelloedd lleol, ac mae’n edrych ymlaen at arddangos corff newydd o waith yn ddiweddarach eleni. Mae ei waith yn bennaf yn cynnwys môr a thirlun Ynys Môn a thirwedd garw Eryri mewn olew a dyfrlliw, ond yn ddiweddar, mae ei ddiddordeb mewn portreadaeth wedi agor drysau sy’n ei arwain ar hyd llwybrau cyffrous iawn.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaRoedd gweithio ar y darlun “Arwr” yn siwrnai emosiynol, wrth i mi geisio cyfleu stori y tu ôl i wyneb, gyda’r thema yn ymwneud ag effaith ac oferedd rhyfel.
Dewiswyd yr wyneb o archif ffotograffig yn yr Imperial War Museum, un wyneb ymysg cannoedd o garcharorion y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n hynod o chwilfrydig, oherwydd er gwaetha’r cadachau budron, mae gweddill wyneb y carcharor yn mynegi blinder ac ysgytiad cael ei drechu, tra ar yr un pryd yn dangos balchder mewn trallod.
Mae’r ddelwedd yn un oesol: mab, gŵr, tadau, arwr: heb fod angen gwisg ffurfiol i ddangos safle na chenedligrwydd.
Rwyf wedi defnyddio graffit, siarcol a sialc i greu portread sensitif, gan lathru a chrafu i’r wyneb, fel petawn yn creu llun ffotograff a ellid ei ddarganfod unrhyw le yn y byd, mewn unrhyw focs o atgofion teuluol.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaMae arlunio yn elfen graidd, gyda’i broses yn creu ystyr ynddo’i hun, nid dim ond fel ychwanegiad i fy ymarfer cerflunio, ond yn gyfrwng blaenllaw. Rwy’n ceisio gwthio ffiniau arlunio i gyfeiriadau newydd. Mae ei uniongyrchedd yn fy ngalluogi i ddod â gweledigaeth newydd i fywyd. Mae arlunio yn iaith weledol fyd-eang, a gobeithiaf bod “The Process of Peace” yn ddarlun sy’n cyfleu hynny. Mae cyfrwng y llwch haean bwrw yn hudolus, ac ni fyddaf byth yn colli’r rhyfeddod a’r grym y mae arlunio yn ei roi i ni i gyd.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaArtist o Gaerffili, de Cymru, yw Steffan Johnson. Enillodd radd BA o Brifysgol Caerfyrddin, ac mae hefyd wedi astudio ym mhrifysgol Bath. Graddiodd yn 2005. Darganfu ei ddiddordeb mewn celf pan yn astudio yn yr ysgol, ac mae wedi bod yn peintio ac arlunio byth ers hynny. Daeth o hyd i’w arbenigedd creadigol mewn peintio ag olew a darluniau cyfrwng cymysg. Yn ddiweddar, ysbrydolwyd ei waith gan hanes ei bentref genedigol, Machen, yn ogystal ag estheteg paent olew a pheintio awyr agored. Mae Steffan newydd gwblhau TAR, ac am fynd i ddysgu mewn ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg leol. Mae wedi arddangos ei waith mewn amrywiol leoliadau, o Abaty Bath i Oriel Washington ym Mhenarth, yn ogystal â Chanolfan Glan yr Afon, Casnewydd, a Chanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd.
Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ei waith celf yn www.steffspainting.blogspot.com
Rwy’n tynnu fy syniadau yn uniongyrchol o’r Ddyfed wledig. Mewn un o’r cymdeithasau yma’m magwyd, man neilltuol lle mae’r ffin rhwng chwedloniaeth a’r byd hwn yn amwys. Cyfnod y ceffyl oedd hwn, cyn dyfod y mecaneiddio mawr, a chyfnod pan oedd y wlad yn niferus gan gymeriadau gwreiddiol, gyda’u cyrff wedi eu hystumio gan waith corfforol a’u dychymyg yn fyw gan straeon.
Er imi adael y cynefin hwn a’i bwrw hi am goleg celf Abertawe i ddysgu crefft arlunio, nid adawodd fy nychymyg ei afael ar y filltir sgwâr yn llwyr, ac wrth dderbyn swydd y pennaeth celf yn Ysgol Y Preseli, roeddwn yn ôl mewn ardal nid annhebyg i’r fro enedigol, sef y mynydd-dir cymdogol a’i holl arwriaeth. Bwriais wraidd arall wedyn yng Ngheredigion, ardal y cobiau Cymreig. Yr elfennau hyn - y gymdeithas amaethyddol, yr osgo gwledig ac ardderchowgrwydd Y Cobyn Cymreig - sy’n tanio’r creadigrwydd ynof.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaCyfleu drama a grym y tirlun wrth edrych i lawr Pen Llŷn dros yr Eifl ac i lawr heibio Garn Fadryn i Fynydd y Rhiw oedd y bwriad. Mwynheais gysgodion y cymylau ar hyd y llethrau a’r môr, ffurf y mynyddoedd, yr haul llachar i’r gogledd-Orllewin a phatrwm y grug, eithin, cerrig, rhedyn a gwair, weithiau’n sefyll allan a dro arall yn meddalu i mewn i’w gilydd. Defnyddiais baent du a phwdr graffit i greu du dwfn a’i daenu efo brwsh, ysgrifbin a bys.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaMae fy ngefndir mewn tecstiliau, er fod arlunio wedi bod yn gwau’n aml trwy fy arferion creadigol. Ers graddio, rwyf wedi ymdrechu i gynnal a datblygu fy sgiliau arlunio.
Mae’r ffurf ddynol wedi bod yn thema barhaus yn fy ngwaith, ac rwyf wedi darlunio’r ffigwr mewn sawl sefyllfa wahanol. Mae’r darluniau hyn wedi eu gwneud mewn dosbarthiadau bywyd, ac wrth sylwi ar berfformiadau gan ddawnswyr ac acrobatiaid.
Rwyf wedi defnyddio fy sgiliau a’m profiad mewn dysgu arlunio bywyd mewn colegau oedolion ac addysg bellach.
Mae fy narluniau diweddar yn canolbwyntio ar archwilio llinellau yn defnyddio siarcol.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaRwy’n ceisio creu delweddau, er eu bod wedi’u gwreiddio yn y byd profiadol, sydd ddim yn ceisio cynrychioli ffenomena benodol. Yn hytrach, wrth gyfuno elfennau fel llinellau a lliwiau, ynghyd â’r syniad o symud, golau a gofod, rwy’n ceisio creu delweddau sy’n taflu cipolwg diflanedig ac amwys o’r cof, treigliad amser, a phrofiad emosiynol.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaGanwyd 1947, Bournemouth. Yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Rwyf wedi gweithio’n llawn amser fel arlunydd gweledol ers 1999, ac wedi treulio’r blynyddoedd hynny yn archwilio ffyrdd i gyfathrebu meddyliau a phryderon gyda’m peintiadau a’m darluniau.
Y mae’n fwy na’r hyn a welwch ar yr wyneb. Mae’r gwaith yn mynd yn ôl sawl blwyddyn: beth rwyf wedi’i weld, ei brofi, ei gyffwrdd a’i gasglu.
Fy nghynefin presennol, yma yng Nghymru, sy’n symbylu fy ngwaith, ac yn ysbrydoli’r testun dan sylw.
Yna, gyda’r peintiad a’r dyluniad, rwy’n cofio, ac yn ceisio gwneud synnwyr o hynny.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaGraddiodd Jane Elizabeth Moran yng Ngholeg Celf Lerpwl. Adrian Henry a Roger Mcgough oedd ei thiwtoriaid. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Llangefni yn y chwedegau cynnar.
Bu’n athrawes celf a dylunio greadigol a llawn ysbrydoliaeth am dros ugain mlynedd. Roedd Jane yn cael ei chyfareddu bob amser gan wyneb cyfnewidiol y tirwedd, a chreigiau a bywyd brodorol Ynys Môn, ac ar ôl ymddeol yn dilyn salwch, dychwelodd i’r ynys.
Mae ei darluniau eithriadol o bersonol yn adlewyrchu ei pherthynas ddofn â thirlun Cymru, wedi’i grisialu mewn cymysgedd o gyfryngau gydag arddull unigryw.
“Rwy’n teimlo grym bywyd hynafol dwfn wedi’i gloi ym mrig y creigiau, yn y cromlechi, yn y padog bach a’r waliau llwyd gan gen sy’n arwain at gilfachau a phentir creigiog.”
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch yma‘Yn y Muriau hyn y mae Meddyliau’r Cymry’n cyfarfod’ – sef Kyffin Williams, Ceri Richards, Gwen John, Peter Prendergast a Josef Herman yn gwrando ar Dylan Thomas yn darllen ei gerdd ‘Do not go gently into that good night…’ Bu’r chwe arlunydd yma yn ganolog yn eu cyfraniad i ddiwylliant Cymreig.
Y mae elfennau symbolaidd trwy’r darn, gan ddechrau gyda’r lleoliad, sy’n addasiad o’r ystafell a welir yn llun Van Gogh ‘Potato Eaters’. Er nad oedd gan Van Gogh gysylltiadau gyda’r diwylliant Cymreig, roedd yn ddyn pobl, a chyda’r arlunwyr uchod cynhyrchwyd gweithiau oedd yn adlewyrchu siwrnai ac atgofion eu profiadau. Gwelir yma hefyd Rodin a Titan. Mae’r rhain i gyd yn ffurfio rhan o’m siwrnai artistig tra yng Ngholeg Menai. Trwy’r ffenestr, mae golygfa o dirlun enwocaf Cymru - yr Wyddfa ysblennydd.
Ar ochr dde’r bwrdd yn y blaendir, gwelir y pwt o newyddion ‘…ond i un sy’n caru celf, y cynnyrch ei hun sy’n bwysig…..’ - testun posibl am drafodaeth wedi’r darlleniad?
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaGwnaethpwyd delweddau Cŵn 4-6 ar y cyd â sawl darlun arall, fel rhan o ymarfer oedd yn anelu at ehangu’r themâu a’r dychymyg yr oeddwn yn ceisio’i ymgorffori i weithiau mwy “gorffenedig” ar gynfas.
Fy nehongliad gwreiddiol ar gyfer y ddelwedd o’r ci oedd “ci du”, ond daeth yn amlwg yn fuan, drwy gymeriad, deinameg a mynegiant y gwaith, fod llawer mwy o themâu a dehongliadau yma nag a welir ar yr olwg gyntaf.
Rwyf felly wedi ymgorffori thema’r ci i bedwar darlun ochr yn ochr â delweddau tebyg fel fermin, colomennod, glas y dorlan, penglogau, bagiau plastig, poteli gwin a gwastraff gwenwynig.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaMae gen i ddiddordeb yn y ddealltwriaeth o ffurf tragwyddol. Rhythmau a phatrymau, harmoni a chydbwysedd cynhenid natur yw fy arweiniad. Mae gen i ddiddordeb mewn creu gwaith sy’n cynnwys ac yn adlewyrchu’r rhinweddau hyn, ac sy’n uno enaid dyn yn y ddawns.
Mae fy ymdriniaeth yn perthyn i safbwynt Celfyddyd Dwyreiniol: Mae ysbrydoliaeth yn gorwedd yn rhythm y ‘bywyd cosmig’.
Yn narlun tirwedd Taoist, mae pob elfen yno er mwyn pwysleisio’r cyferbyniad â gwagle. Yn ôl fy arfer, mae’r elfennau, ffigurol yn bennaf, hefyd i’w gweld yn erbyn gwagle wedi’i oleuo. Rwy’n ceisio dad-bersonoli’r ffigwr er mwyn gwneud datganiad cynddelw cyffredinol am yr enaid a’i safle o fewn y drefn gosmig.
Mae fy ngwaith yn pontio safbwyntiau Dwyreiniol a Gorllewinol, gan gyfuno technegau arlunio arsylwadol, gwydriad a niwlog, a geometreg. Rwy’n parhau i arbrofi gyda gwahanol ddulliau a phrosesau er mwyn crisialu fy ngweledigaeth yn y modd mwyaf effeithiol.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaRwy’n tynnu lluniau adar: ieir, gan fwyaf. Rwyf wrth fy modd yn eu gwylio’n symud, a gwrando arnynt yn sgwrsio ymysg ei gilydd, ac yn galw arna‘i i ofyn am fwyd neu i ddangos eu hunain ar ôl dod o hyd i wobr arbennig o flasus. Wrth redeg o’i gwmpas yn ceisio’i warchod rhag y lleill, maent yn dangos nodweddion a welir mewn adar gwyllt ac anifeiliaid eraill. Mae’r ymddygiad yma yn fy nghyfareddu ac yn fy llenwi â chwilfrydedd. Mae rhai yn wrthrychau o harddwch pur, eraill yn cael eu bridio i gynhyrchu bwyd, ond maent i gyd yn llawn chwilfrydedd ac yn gymeriadau hudolus, sy’n fy nghymell i’w darlunio. Mae fy lluniau yn ddehongliadau llawn cymeriad, bron fel gwawdlun o adar, ond beth yw eu hystyr go iawn? Ydw i’n datgan sylw am y ffordd yr ydym ni’n cynhyrchu bwyd o anifeiliaid? Ydw i’n eu troi yn anifeiliaid anwes? Neu ydw i efallai yn darlunio fy hunan? Neu a yw’n ddim ond llun diddorol? Caiff y gwyliwr benderfynu.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaOherwydd ei natur onglog a’r holl rychau/wrymiau a namau ar ei wyneb, mae darn o graig yn wrthrych delfrydol i’w ddarlunio. Fodd bynnag, nid yw darlunio darn o graig yn ddim ond ymarfer. I’m hysgogi i ddechrau gweithio ar ddarn mor fawr â hwn, byddai’n rhaid i’r gwrthrych ei hun fod yn wirioneddol ysbrydoledig. Gan fy mod yn peintio mynyddoedd yn bennaf, byddaf yn chwilio am ddwy elfen, sef graddfa a drama. Ynghudd yn uchel ar ochr ceunant gwlyb ar Glogwyn Du’r Arddu mae’r clogwyn hwn sy’n dominyddu popeth o’i gwmpas. Yma roedd yr holl ofynion yr oeddwn yn chwilio amdanynt: drama, graddfa a bygythiad. Mae manylion rhagorol yn y graig hon - corneli, rhychau, holltau a chlogwyn sy’n erchyll o serth - cerflun creigiog rhyfeddol.
Ond er bod y dringwr yn bwysig, ei sefyllfa fregus mewn erwau o graig noeth ydi amcan ei fodolaeth yn y llun.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaYn wreiddiol o Forfa Nefyn, graddiodd Niki Pilkington ym mis Mehefin 09 gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Hyrwyddo a Darlunio Ffasiwn o Ravensbourne, Llundain. Mae hi newydd orffen cynorthwyo’r Ffotograffydd Ffasiwn, Rankin, a bellach mae’n gweithio rhwng Llundain a Chymru fel arlunydd llawrydd, yn arbenigo mewn comisiynau portread, ac yn gwneud pob math o brosiectau.
“Rwyf wedi cael fy swyno gan fath arbennig o ferch erioed - y rhai sy’n edrych yn wahanol mewn rhyw fodd, fel bod yn rhaid i chi syllu arnyn nhw. Mae nhw’n hyderus, yn garismatig, yn danbaid ac yn ddeniadol. Mae eu dewis o ddillad a’u steil unigryw yn cyffroi fy nychymyg. Rwy’n llawn chwilfrydedd, ac yn cael fy nghymell nid yn unig gan eu hedrychiad, ond hefyd gan y modd y mae nhw’u hunain yn dehongli eu golwg.”
Mewn gwaith sy’n bwydo oddi ar y bobl a’r lleoliadau y mae’n eu gweld o ddydd i ddydd, mae ei darluniau yn ceisio nid dogfennu yn unig, ond hefyd deall pam fod y merched hyn wedi ei denu.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaRwy’n artist amgylcheddol, yn byw yn Sir y Fflint, yn gweithio gyda deunyddiau naturiol ac wedi eu hail-gylchu i greu cerfluniau, darluniau a gosodiadau dros dro.
Cynllun cynfas o bensil a chyfryngau cymysg yw’r gwaith celf yr wyf wedi’i gyflwyno i’r arddangosfa, yn darlunio syniadau sy’n seiliedig ar foglynnu coeden ffawydden ar gyfer arddangosfa flaenorol yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog yng ngogledd ddwyrain Cymru. Felly, mae’r gynfas o syniadau yn grynodeb o frasluniau o’m bwriad, cyn i mi ddarlunio ar risgl y goeden ei hun.
Mae’r brasluniau hyn yn dangos syniadau fel addurno arwyneb y goeden ffawydden gydag enwau beirdd blaenllaw’r gorffennol o Ddyffryn Ceiriog, neu ymgorffori amlinelliad syml o ddail ffawydden, gan ragweld defnyddio siarcol i rwbio i mewn i’r rhisgl.
Wrth fraslunio syniadau fel hyn, gallwn sylwi’n union beth oedd yn gweithio orau, ac yn y pen draw, dewisais batrwm y ddeilen ffawydden fel y cynllun mwyaf effeithiol i’w drosglwyddo ar foncyff y goeden.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaYn Blankscape Cyfres 3 mae’r ddelwedd haniaethol sy’n ymledu o dirwedd yn ymddangos fel map, fel petai’n gwau i mewn i flanced sy’n perthyn i ethnigrwydd ardal drwy gyfeirio at y brethyn Cymreig (cyfuniad o’r geiriau blanket a landscape yw Blankscape). Mae’r marcio gan fynegwr sy’n ceisio rhyddhau esthetig cyntefig. Mae fy ngwaith yn ymwneud â hunaniaeth ddiwylliannol, iaith a mapio. Mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio gan nad ydynt yn siarad yr un iaith. Mae’r gallu i siarad yr un iaith â rhywun yn rhan gref o hunaniaeth, yn ein galluogi i gyfathrebu’n llawn ag unigolion ar lefel serchus sylfaenol, yn ogystal â chymunedau cyfan er mwyn goroesi.
Mae rhwystredigaeth a thensiynau yn y marcio, sy’n mynegi’r teimlad o fethu cael eich deall, neu fethu deall eraill yn cynnwys anwyliaid, yn rhoi ystyr byd-eang i’r delweddau Blankscape dros ffiniau amryw o ddiwylliannau a phrofiadau personol.
Mae gen i ddiddordeb mewn gwneud gwaith sy’n cyfeirio at wrthrych arbennig, neu fath o wrthrych. O’i roi yn syml, rwy’n gwneud pethau allan o ‘stwff’ – boed hynny yn ddeunydd, gwrthrychau, saerniaeth ac adeiladau sydd gyda’i gilydd yn creu tirlun bob dydd, gyda’i ddarnau cyfansoddol yn safonol, yn normal a dros dro.
Mae grid o linellau wedi eu dylunio â llaw ar arwyneb yn awgrymu rhwydwaith gwifren, ac yn ei dro yn golygu tirwedd wedi’i saernïo.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaThis picture is part of a series of faces on the maps of Wales which was started in 2005.
Rhan o gyfres o wynebau ar fapiau o Gymru, a ddechreuwyd yn 2005, yw’r darlun hwn.
Mae elfennau chwareus, pleserus a damweiniol yn rhan o ’mhroses. Tra’n darlunio, sylwaf ar enw trawiadol (fel Nant – cwm – llawenog) neu enw sy’n berthnasol i mi’n bersonol. Wedyn, o safbwynt techneg, efallai fod symbol yn amharu ar gannwyll llygad neu wefus, neu gall lliwiau’r map amharu ar donyddiaeth. Er mwyn rheoli hyn, defnyddiaf ddilëydd-trydan i ddiddymu marciau neu i greu goleubwyntiau.
Teitl llun yn y gyfres yw Taith/Iaith/Hunaniaeth. Wrth ddarlunio, teithiaf drwy’r tir, trwy’r ddwy iaith ac felly fy hunaniaeth.
Nid oes map uniaith Gymraeg ar y farchnad, felly nid oes modd i mi deithio ’ngwlad trwy gyfrwng fy mamiaith yn unig……. heb ddilëydd. Serch hynny, fy ngobaith yw fod yr wyneb yn golygu mwy nag arwyneb.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaMae fy ngwaith yn adlewyrchiad o golli traddodiad, sgiliau a chrefftwaith sy’n cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, a’r atgofion sydd wedi’u gwreiddio yn y pethau hyn na chaiff eu gwerthfawrogi. Mae pob darn rwy’n ei greu yn gymhleth a manwl, ac felly’n denu’r llygad i adnabod yr hyn sy’n aml yn cael ei anwybyddu neu ei gymryd yn ganiataol. I mi, mae’r weithred o arlunio yn debyg i ymateb rhai tuag at bryfaid; brwydr barhaol rhwng ei wynebu a dianc i ffwrdd. Ni wn o ble y daw fy ngallu, ac felly mae gen i ofn siomi fy hun. Pan fo darn o waith wedi ei gwblhau, rwy’n teimlo fel pe bawn yn edrych arno am y tro cyntaf, a dim ond bryd hynny yr wy’n cael gweld canlyniad y ddeialog rhwng fy llaw a’m llygaid. Yr ysfa i ddarganfod yr harddwch annisgwyl, wedi’i greu â dim ond pensil a phapur, sy’n fy nhynnu yn ôl i’r frwydr.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaMae’r wawr yn rhoi teimlad o hyder a gobaith am y dyfodol, gwawrio diwrnod newydd, ac yn rhoi ffynhonnell ddibynnol o waith ac incwm i ambell gasglwr cocos ffodus yn Aber afon Dyfrdwy.
Cyn 2008, byddai casglwyr cocos o bell ac agos yn cynhaeafu yn Aber afon Dyfrdwy, gan greu economi o ffyniant a methiant, a difrodi cynefin bregus pysgod ac adar, fel y bioden fôr, myniar y traeth, y gylfinir a’r pibydd goesgoch.
Gydag oddeutu 9,000 tunnell o gocos ar y gwelyau ar ddechrau’r tymor, ’doedd dim syndod i hyn ddenu casglwyr fel gwenyn i bot jam pan ddeuai’n amser cynaeafu.
Bellach, diolch i gyfyngiad caeth Heddlu Gogledd Cymru ar gasglu cocos yn anghyfreithlon, a chyflwyniad gorchymyn newydd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i reoli a thrwyddedu, mae Aber afon Dyfrdwy yn darparu bywoliaeth gynaladwy i 50 o gasglwyr cocos trwyddedig, gan adael digon o gocos ar y gwelyau i fwydo’r adar sydd o bwys rhyngwladol.
Mae Elly Strigner yn arlunydd, yn ddarlunydd ac yn animeiddydd o Hen Golwyn. Graddiodd yn 2006 gyda BA Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Darlunio ac Animeiddio yn MMU. Ers hynny, mae wedi cydweithio gyda label recordio SONS, a chwmnïau ffilm annibynnol Zoomcitta a The Route, gan greu gwaith arlunio hyrwyddol, cynllunio gwefannau ac animeiddio. Mae wedi arddangos ei gwaith yn Llyfrgell Dinbych, Fringe Arts Bath, a’r Zion Arts Centre yn Hulme, Manceinion. Mae Ellie yn gweithio ar hyn o bryd fel arlunydd preswyl mewn cartref yn y Rhyl sy’n arbenigo mewn gofal pobl hŷn sy’n dioddef o dementia. Mae’n treulio’i hamser yno yn siarad gyda’r preswylwyr, a gwneud gweithgareddau syml a chreadigol gyda nhw, fel peintio murluniau lliwgar i loywi’r cartref.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaEnillydd Gwobr Lluniadu Kyffin Williams 2009
Rwy’n gweithio gan fwyaf mewn siarcol cywasgedig, gan greu lluniau sy’n cyfleu lleoliad, er bellach yn adfail, ond bod teimlad o brysurdeb a bywyd yn dal i fod yno. Yn fy ngwaith, fy nod yw crisialu’r awyrgylch wibiog a ellir ei deimlo mewn lleoliad o’r fath. Cyfathrebu trwy ddarluniau, emosiynau na all geiriau eu mynegi. Trwy’r defnydd o farcio trylwyr, y bwriad yw creu syniad o symudiad a’r posibilrwydd fod rhywbeth ar ddigwydd. Mae’r llinellau sydd wedi’u sgriblo yn creu teimlad o dirlun sy’n newid, ac o stori gyfredol. Mae adeiladwaith yr haenau o farciau du dwys yn creu duwch clawstroffobig trwm sy’n cyferbynnu gyda’r ardaloedd o wynder, ble mae’r marciau wedi eu gweithio ymaith. Mae’r gwyn cyferbyniol yn rhoi gollyngdod braf rhag y duwch trwm, ac yn awgrymu posibilrwydd o obaith am y dyfodol. Efallai, am ennyd ddiflanedig, o rywbeth bron yn anniffiniol.
Fe’m ganwyd ar Fynydd Caergybi ym 1975, ac rwyf wedi dysgu fy hun gan fwyaf, o dan arweiniad fy nhad, Joseph, sy’n destun i’r darlun hwn. Charles Tunnicliffe a Peter Scott oedd fy nylanwadau cynnar, dau a roddai’r un wefr i ’nhad a minnau. Mae hwn i chi, ’nhad.
Dechreuodd Manon Awst a Benjamin Walther gydweithio yn ôl yn 2005, ar ôl cyfarfod ym Merlin. Gyda’r ddau yn ymddiddori ac arbenigo mewn theatr a phensaernïaeth, dechreuodd Awst a Walther archwilio ar y cyd i’w diddordeb mewn materion cymdeithasol, gofodol, a dysgu trwy brofiad, gan greu perfformiadau, gosodiadau, cerfluniau a darluniau sy’n cyfeirio’n feirniadol at themâu sylfaenol bodolaeth dyn. Gan ddefnyddio’u gwybodaeth a’u mewnwelediad i bensaernïaeth, datblygiad trefol, ffasiwn, a’r diwydiant pornograffig, mae Awst a Walther yn dadansoddi’r diffyg mewn seiliau diwylliant ehangach. Maent yn rhannu eu hamser rhwng Gogledd Cymru a Berlin.
Maent wedi ennill eu henw da drwy arddangos yn y DG ac yn rhyngwladol, a hynny’n fwyaf diweddar yng Ngaleri Hannah Barry yn Llundain, a 53ydd Bienale Fenis. Mae eu harddangosfa unigol Petai’r llwch yn gallu siarad i’w gweld yn Oriel Davies Gallery, Y Drenewydd, hyd y 24aino Dachwedd.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaMae Cymreictod – neu yn hytrach y profiad o fyw yng Nghymru – yn thema amlwg yng ngwaith Catrin Williams. Mae elfennau o’i chefndir a’i magwraeth ym Meirionnydd yn mynnu cael ei gynnwys yn ei gwaith – y cartref a’r fferm; y dathliadau a’r dillad; y diwylliant Cymreig; traddodiadau teuluol a wynebau cyfarwydd.
Mae gwaith Catrin wedi ei arddangos yn helaeth ar draws Cymru, mewn orielau yn yr Alban, Lloegr ac Iwerddon – mae ei chyfres o Ffrogiau Cerdd Dant wedi ei dangos yn ddiweddar yng Nganolfan Gelfyddydau Belger, Kansas City, U.D.A. fel rhan o’r arddangosfa hynod lwyddiannus ‘Prints of Wales Exhibition’. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae galw mawr am ei gwaith gan nifer o gasglwyr preifat, ac mae eu hymateb i’w gweithiau newydd yn gadarnhaol iawn. Mae darnau o gelfyddyd Catrin mewn casgliadau preifat dros ynysoedd Prydain, Ffrainc, yr Almaen, Hwngari, Japan, Canada ac America – ac yng nghasgliadau cyhoeddus Amgueddfa Celf Gyfoes MOMA Cymru Machynlleth, Cyngor Sir Gwynedd, Oriel Ceredigion Aberystwyth, ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Gwent.
Bron i ugain mlynedd ar ôl graddio o’r Coleg Celf yng Nghaerdydd, mae Catrin yn parhau i roi ei hegni i’w pheintio ac i ddylunio ei byd. Mae hi’n cynhyrchu cyfres o weithiau gwreiddiol yn gyson, yn arddangos yn rheolaidd, ac yn credu’n gryf mewn hybu a chefnogi artistiaid eraill.
Astudiodd Gelfyddyd Gain (Peintio) yng Ngholeg Arlunio Manceinion (1961-65). Bu’n dysgu mewn ysgolion cyfun yng nghanol y ddinas am sawl blwyddyn cyn symud i Ogledd Cymru ym 1990 ble dechreuodd ei busnes ei hun yn cynhyrchu printiau a chardiau cyfarch.
“O’r diwedd, mae gen i’r amser i ddatblygu fy ngwaith fy hun. Rwyf wedi arddangos mewn amryw o arddangosfeydd grŵp yn y Gogledd Orllewin a Chymru. Rwy’n ystyried arlunio fel rhan allweddol o’m bywyd, ac rwy’n cario llyfryn sgets i bobman, gan dynnu llun unrhyw beth a phopeth, yn enwedig wrth deithio. Ni fyddaf byth yn blino arlunio modelau byw. Mae gen i fwy o ddiddordeb mewn sylwi a darganfod ffyrdd i gyfleu’r hyn dwi’n weld na mewn cynhyrchu ‘gwaith gorffenedig’. Byddaf weithiau’n defnyddio’r lluniau hyn i’w datblygu gyda phaent, dro arall yn peintio’n syth gan chwilio am atyniad bob tro, waeth pa mor gyffredin yw’r testun.”
Mae’r darluniau yn perthyn i syniadau cyfoes yn fy ngwaith am leoliad, y tu mewn a’r tu allan, a’r profiad o deithio o’r de i’r gogledd ar draws Cymru yn y nos. Cawsant eu creu yn fy stiwdio yn ystod wythnos oer ym mis Ionawr, y delweddau yn perthyn i gyfres gyfredol o ddyluniau a lluniau dyfrlliw.
Wrth eu creu, meddyliais am y traddodiad o ddylunio yng Nghymru, ac felly roedd gen i ddiddordeb mewn gwneud delweddau a fyddai’n bwerus, atseiniol ac yn cyflwyno materoliaeth a ymddangosai’n derfynol, wedi’i ddatrys, yn uchelgeisiol a digyfaddawd. Hoffais y cysylltiad rhwng siarcol, carbon, glo a duwch a chyfnod y nos; felly i mi, roedd y darnau yn fyfyrdod ar arlunio; ar beth a fu, a beth a all fod nawr yng Nghymru, yn ymarferol ac yn drosiadol. Yn yr ystyr hwnnw, fe’u symbylwyd o ran thema gan yr arddangosfa, yn yr un modd ag y byddai bardd yn ysgrifennu cerdd ar thema cystadleuaeth.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaYmbalfalu yw brwydr dyn trwy storm eira. Nid yw’n gwybod ble y mae nac i ble mae’n anelu, ac eto, mae’n dal ati…
Mae Andrew Wilson yn artist sy’n seiliedig yn Lerpwl, ond yn hanu’n wreiddiol o ogledd Cymru. Ymfudodd Andrew i Lerpwl i astudio BA mewn Celf Gain ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl, yn dilyn cwblhau cwrs Celf Sylfaen yng Ngholeg Menai. Ar hyn o bryd mae ganddo le mewn stiwdio gyda chasgliad o arlunwyr yn The Royal Standard yn Lerpwl.
Gweithia Andrew yn bennaf yn y cyfrwng arlunio, cerflunwaith a ffotograffiaeth, gan ganolbwyntio’n bennaf ar arlunio ar hyn o bryd. Y ffigwr, a’r gwagle yn union o’i amgylch, sy’n tueddu i fod yn destun i’w waith.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaRwyf wedi bod yn beintiwr proffesiynol ers hanner canrif bellach, a gan i mi gael fy meithrin yn gynnar ar egwyddorion astudio gwrthrych, mae arlunio wedi bod yn hafaliad yn fy holl waith. Arlunio yn sicr yw’r cysylltiad agosaf rhwng testun a gwrthrych, gweledigaeth a chyffyrddiad yn un, iaith haniaethol y deall.
Plentyndod ym mryniau gwledig Sir Amwythig, ble mae Cymru’n gorlifo dros y ffin, yw’r rheswm am y cariad sydd gen i at fynyddoedd, eu dryswch a’u hymdoddiad gyda’u tywydd yn ddeunydd crai perffaith i’w roi mewn strwythur darlun.
Mae’r ddau lun sydd wedi eu cynnig yn lluniau cynnar ar gyfer darluniau paent sydd heb eu dechrau eto, er nad ydw i’n dweud fod darlun yn israddol i lun wedi’i beintio. Cymerodd y ddau tua ugain diwrnod i’w creu, ac mae ychwanegiad y golch yn rhoi strwythur i ffurf, gofod ac awyrgylch.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaErs mynychu Ysgol Gelf, (yn Stafford, Brighton a Chelsea) a chyfnod o ddysgu a swyddi eraill yn Llundain, mae Jeremy Yates wedi byw yng ngogledd Cymru, yn peintio, dysgu ac yn arddangos. Eleni, mae ei waith tirlun mewn dyfrliw, acrylic ac olew wedi ei arddangos yn Wrecsam, (Arddangosfa Agored), Bangor (Arddangosfa Agored), Caer (Grosvenor Open ac yn Down to a Fine Art Gallery, Stretton), Llanberis (Caban, Bryn Refail) a Chonwy (RCA); mae ei waith ffigwr wedi’i weld ym Machynlleth (Arddangosfa Agored) a’r Wyddgrug (North Wales Open), ac yn arddangosfa deithiol y Wales Portrait Award, oedd yn gorffen ei thaith yng Nghymru yn Y Rhyl ym mis Medi.hibition which had its final Welsh venue at Rhyl in September.
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch ymaMae fy ngwaith celf, ar hyn o bryd, yn canolbwyntio ar ddarlunio ffigurau. Mae gen i ddiddordeb mewn creu neu ddychmygu’r fodel mewn sefyllfa arbennig, ac rwy’n ceisio cyfleu golygfa y gallem ni i gyd fod ynddi, pe bai hynny mewn realaeth neu yn ein dychymyg.
Rwy’n defnyddio fy mhrofiad fy hun, o’m bywyd preifat a’m bywyd gwaith, a, gobeithio, yn gallu cyfathrebu gyda’r gwyliwr.
Mae “Medda hi”, gobeithio, yn un o’r sefyllfaoedd yr ydym ni ferched wedi bod ynddi – hel clecs!
I gael golwg ar yr E-Arddangosfa - cliciwch yma