Cymraeg | English

Caffi Blas Mwy

Yn ystod eich ymweliad â’r Oriel be’n well na chael cyfle i ymlacio a mwynhau’r fwydlen amrywiol a blasus yn ein caffi Blas Mwy ar ei newydd wedd.

Bydd Gwenan a’i staff yn sicr o’ch croesawu a’ch temptio hefyd i brofi’r llu o brydau cartref. Cynigir hefyd fwydlen arbennig ar gyfer llysieuwyr a phlant.

Mae Blas Mwy yn gaffi trwyddedig.

Rhif Ffôn: 01248 751516.